|
--------------------------------------------------
Camdriniaeth Ddomestig Is-grŵp Hyfforddiant
Amodau Cyfeirio
1. Diffinio
Camdriniaeth Ddomestig
Diffinnir
camdriniaeth ddomestig fel camdriniaeth
gorfforol, emosiynol a rhywiol a
chamdriniaeth gan rywun (fel arfer ond nid
bob amser yn ddyn) o berson (fel arfer ond
nid bob amser yn ddynes) y maen nhw wedi
cael rhyw ffurf o berthynas hefo nhw, megis
priodas, er mwyn cadw pŵer a rheolaeth dros
y person hwnnw.
Diffiniad
lloches i fenywod o Drais Domestig.
Mae pobl, heb
wahaniaeth eu hoed, hil, rhywioldeb,
diwylliant, dosbarth cymdeithasol, crefydd a
gallu corfforol a meddyliol yn profi
camdriniaeth ddomestig. Mae pob aelod yn
credu bod camdriniaeth ddomestig yn
annerbyniol ac yn aml yn drosedd a bod gan
bawb hawl i fyw eu bywyd yn rhydd o ofn,
bygythiad a thrais.
2. Enw
Fforwm
Camdriniaeth Ddomestig
Is-Grwp hyfforddiant.
3. Pwrpas y
Grŵp
• Gweithredu
fel is grŵp prif Fforwm Camdriniaeth
Ddomestig a Diogelwch Personol Sir Ddinbych,
gweithio'n effeithiol i addysgu a gwella
ymarfer ac agwedd at gamdriniaeth ddomestig.
• Gweithredu
fel grŵp o gynrychiolwyr o bob asiant / grŵp
proffesiynol sy'n gweithio ar draws Sir
Ddinbych i godi ymwybyddiaeth a deall
camdriniaeth ddomestig yn y gymuned, eu
mudiadau eu hun ac asiantau eraill.
• Cydgordio a
datblygu hyfforddiant asiant sengl a sawl
asiantaeth, cyfrannu i ddatblygu ymateb ac
agwedd cyson.
• Hyfforddi
hyfforddwyr aml asiantaeth ar gyfer y
Rhaglen Ymwybyddiaeth Sylfaenol.
• Rhannu
ymarfer da a chyflwyno hyfforddiant o safon,
yn briodol, cyfrifol, mesuradwy ac
effeithiol.
• Arolygu a
gweithredu darpariaeth hyfforddiant, canfod
gofod a gwneud argymhellion i ddatblygu
rhaglenni hyfforddiant at y dyfodol.
• Cyfrannu i
fonitro a gwerthuso hyfforddiant a wneir ar
ran Fforwm Camdriniaeth Ddomestig a
Diogelwch Personol Sir Ddinbych a rhoi
sylwadau ar effeithlonrwydd ei raglenni
hyfforddiant .
4. Aelodaeth
Mae Aelodaeth
yn agored i'r holl asiantau perthnasol sy'n
gweithio yn Sir Ddinbych sydd hefo :-
• Cyfansoddiad
cytunedig neu set o reolau.
• Cytuno i
dderbyn amcanion ac egwyddorion y Fforwm.
• Cytuno i
dderbyn amodau cyfeirio'r Fforwm.
• Cefnogi
agwedd aml asiantaeth at weithio .
• Bod yn fodlon
cyfrannu at, a hyrwyddo a chyflwyno
hyfforddiant.
• Ymroddedig i
gyfrannu a gwella dealltwriaeth o ymddygiad
sy'n cam-drin a lleihau goddefgarwch o
gamdriniaeth ddomestig.
Nod yr Is-Grwp
Hyfforddiant yw bod yn gynhwysol a chydnabod
statws cyfartal yr holl bartneriaid. Mae'r
grŵp yn agored i gynrychiolwyr o'r sectorau
statudol a gwirfoddol.
Mae'r grŵp yn
cydnabod bod pob partner yn gwneud cyfraniad
gwerthfawr i'r grŵp. Bydd pob Aelod yn cael
cyfle i fynegi eu barn neu farn y mudiad a
gynrychiolant.
5.
Presenoldeb
• Bydd
mudiadau'n enwebu eu cynrychiolwyr.
• Mae croeso i
aelodau sy'n methu dod i gyfarfod i anfon
cynrychiolydd o'r mudiad sy'n eu henwebu.
• Rhaid anfon
ymddiheuriad am fethu cyfarfod, cais am
wybodaeth, ac unrhyw bapur angenrheidiol at
Gadeirydd yr Is- Grŵp.
• Rhaid i bawb
sy'n dod i gyfarfodydd o'r Is-Grwp gadw'r
pethau'n gyfrinachol.
• Ystyrir bod
aelodau, sy'n methu dod neu anfon
cynrychiolydd i 3 cyfarfod dilynol, wedi
ymddiswyddo o'r grŵp.
6.
Cyfrifoldeb cynrychiolwyr yr asiantaeth
• Bydd disgwyl
i Aelodau ddod i gyfarfodydd a gweithio ar y
cyd hefo aelodau o'r grŵp.
• Bydd
Aelodau'n trefnu hefo eu hasiantaeth / grŵp
proffesiynol i sicrhau cyfathrebu ar
faterion pwysig a godwyd o fewn yr Is-Grwp
Hyfforddiant a rhoi adroddiad yn ôl i'r Is-Grwp
am unrhyw faterion hyfforddiant a godwyd o'u
hasiantaeth eu hun neu o asiantau eraill.
• Cyfrannu i
gyflwyno hyfforddiant a bod yn fodlon
arsylwi ar hyfforddwyr cymwysedig yn rhoi
hyfforddiant ar ran y Fforwm cyn cyd
hyfforddi hefo Aelodau eraill y grŵp.
Byddai'n ddymunol bod pob hyfforddwr wedi
cael Tystysgrif mewn Camdriniaeth Ddomestig
neu gyfatebol.
7. Amledd
Cyfarfodydd
• Bydd y grŵp
yn cyfarfod bob yn ail fis ar adeg ac mewn
lleoliad a gytunwyd gan y grŵp. Gall y grŵp
benderfynu galw cyfarfodydd ychwanegol neu
ohirio cyfarfod os bydd angen.
8.
Gweinyddiaeth
• Gwneir pob
ymdrech i gylchredeg yr agenda, cofnodion a
phapurau o leiaf 7 dydd cyn y cyfarfod.
• Darperir
cofnodion yn y ffurf briodol.
9. Cadeirydd
ac Is-Gadeirydd
• Bydd y grŵp
yn penodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd o blith
ei Aelodau.
• Bydd rôl y
Cadeirydd ac Is-Gadeirydd yn cael ei adolygu
bob 12 mis ar adeg yr Arolwg Blynyddol.
10. Arolwg
Blynyddol
• Caiff yr
amodau cyfeirio eu harolygu'n flynyddol.
Cynhelir hyn mewn cyfarfod hyfforddiant o'r
Is-Grwp cyn cyfarfod cyffredinol y fforwm.
Date:
Gorffennaf 2005
Author Alison
Hay Date approved
by: Gorffennaf 2005

|
|