Forwm Cam-Drin Yn Y Cartref Sir Ddinbych

OS YDYCH CHI'N ANHAPUS - DYWEDWCH WRTH RYWUN

Adref Niferoedd Cysylltiad Amdanom Ni Diffiniad Cam-Drin Yn Y Cartref Hyfforddiant

CARTREFI DIOGELACH
SIR DDINBYCH

 

CYFARFODYDD A DIGWYDDIADAU

Cyfarfodydd

Digwyddiadau

 

CYFARFODYDD

RHAGLEN RHYDDID

Mae Cymorth I Ferched yn rhedeg Rhaglen Rhyddid, cychwyn:

 Ionawr 22 2009

12.30yp 2.30yp.

Fydd hwn yn rhedeg or swyddfa gwybodaeth yn Dinbych.

Am fwy o fanylion cysylltwch a Cymorth I Ferched Glyndwr 01745 814494

--------------------------------------------------------------------

PROSIECT DYN SEMINAR

Cynhaliwyd seminar gan Gydlynydd Cynllun Dyn yng Ngorsaf Dân Gymunedol Rhyl ym mis Hydref 2008 ynglŷn ag anghenion dioddefwyr gwrywaidd camdriniaeth yn y cartref ac i godi ymwybyddiaeth am anghenion eu gwasanaeth. Yr asiantaethau oedd yn bresennol oedd Heddlu Gogledd Cymru; y Gwasanaeth Prawf; Addysg; NSPCC; Cymorth i Ferched a’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Yn ystod y seminar, daeth Rhodri Morgan i’n gweld. Roedd o yno i lansio’r Orsaf Dân Gymunedol yn swyddogol.

 
 

DIWRNOD RHUBAN GWYN

 

TMae'r ymgyrch rhuban gwyn yn rhan o 16 diwrnod o weithredu yn erbyn Trais Cenedl (Gender Violence). Tachwedd 25, diwrnod cydwladol yn erbyn trais yn erbyn merched, a Rhagfyr 10, diwrnod hawliau dynol cydwladol, sy'n symbolaidd yn cysylltu trais yn erbyn merched a hawliau dynol gan bwysleisio bod trais o'r fath yn drais yn erbyn hawliau dynol.
• Mae camdriniaeth ddomestig yn hawlio bywyd 2 ferch bob wythnos;
• Mae camdriniaeth ddomestig yn effeithio ar 1 o bob 4 o ferched yn ystod eu bywyd;
• Trais yn erbyn merched yw'r achos mwyaf o farwolaeth trwy'r byd mewn merched rhwng 19-44, mwy na rhyfel, cancr neu ddamweiniau cerbydau modur.

Sylvia Jones (ar y chwith) hefo aelod o'r cyhoedd.

Yn 2006 mae Cadeirydd Fforwm Camdriniaeth Ddomestig Cyngor Sir Ddinbych, Sylvia Jones wedi gofyn i bawb “fod yn ymroddedig i'r ymgyrch a gwisgo rhuban gwyn i ddangos cefnogaeth i gael gwared o drais yn erbyn merched."

 

Diwrnod Rhuban Gwyn 2006  yn Morrisons, y Rhyl
Mary Yaxley (Lloches i Fenywod Glyndwr) yn rhannu rhubanau gwyn. Mae cefnogi'r ymgyrch yn waith sychedig

Roedd dynion chwaraeon a Chyngor Masnachu Dyffryn Clwyd ymhlith eraill o gwmpas y byd sy'n gwneud gwahaniaeth i ddadorchuddio troseddau cudd yn erbyn merched. Galwodd fforwm Camdriniaeth Ddomestig & Diogelwch Personol i bob dyn byth wneud, caniatáu, neu aros yn ddistaw am drais yn erbyn merched. Yn 2006 y clybiau a gefnogodd yr ymgyrch oedd clwb pêl droed y Rhyl a chlwb rygbi Rhuthun.

 

Michelle (Cydgordiwr cam-drin domestig Sir Ddinbych - ar y chwith eithaf) a Mary (Swyddog Lles, Women's eVillage, y Rhyl - ar y dde eithaf) hefo clwb pêl droed y Rhyl.

Chlwb rygbi Rhuthun

Meddai Michelle Davidson Beck, cydgordiwr camdriniaeth ddomestig y Sir, “Roeddwn yn falch o'r gefnogaeth a gawsom gan ddynion y ddau Glwb. Mae'n dangos eu bod yn ymroddedig i wneud gwahaniaeth i bob merch a wyddant. Gall dynion siarad allan ac ymyrryd pan fydd eu ffrindiau gwrywaidd neu berthnasau yn taflu sen neu yn taro merched. "

 

CYFARFODYDD

 DIGWYDDIADAU FFORWM

 

Cyfarfod

Dyddiad

Amser

Lleoliad

Is-Grwp Hyfforddiant 2 Rhagfyr, 2008 10.00yb - 12.00yp NSPCC, Warren Drive, Prestatyn
Prif Gyfarfod Y Fforwm 26 Ionawr, 2009 1.30yp - 4.30yp Canolfan Addysg Lôn Ganol, Dinbychh

--------------------------------------------------------------------------------

CYMORTH I FERCHED GLYNDWR AGM

Gwahoddiad i bawb…

Adroddiad Blynyddol 2007 – 2008

Cymorth I Ferched Glyndwr

Dydd Iau 11 Rhagfyr 2008
11yb – 1 yp
Felin Brwcws, Dinbych

 

ENGLISH VERSION