Forwm Cam-Drin Yn Y Cartref Sir Ddinbych

OS YDYCH CHI'N ANHAPUS - DYWEDWCH WRTH RYWUN

Adref Niferoedd Cysylltiad Diffiniad Cam-Drin Yn Y Cartref Hyfforddiant Digwyddiadau a Cyfarfodydd

 

Andamon Ni

CEFNDIR

Bu Fforwm Camdriniaeth Ddomestig Sir Ddinbych mewn bod ers Medi 1996.   Mae yn gyfrifol am drefnu gweithgareddau yn y sir gyda'r nod o roi sylw i faterion Camdriniaeth Ddomestig a Diogelwch Personol.

Mae ei aelodaeth yn cynnwys swyddogion o asiantau statudol megis y Cyngor Sir, yr Heddlu, Awdurdod Iechyd, Gwasanaethau Prawf etc. Yn ogystal â mudiadau gwirfoddol megis lloches i fenywod, gyngor gwasanaethau gwirfoddol Sir Ddinbych a chymorth i ddioddefwyr.

Ers ei ddechrau mae'r fforwm wedi datblygu cynlluniau busnes blynyddol sydd wedi'u defnyddio fel arweiniad i'w weithgareddau ac i fesur datblygiad.

DATGANIAD O BWRPAS

Hyrwyddo cynnydd mewn ymwybyddiaeth o faterion perthynol i gamdriniaeth ddomestig yn erbyn merched, dynion, eu plant ac eraill sy'n ddibynnol, trwy wella gwasanaethau a rhoi cefnogaeth trwy bartneriaeth rhwng asiantau. Hefyd dynodi a chael adnoddau ar gyfer yr amcanion hyn.

I hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth o faterion perthynol i boendod a dioddefaint person oherwydd
eu tueddiad hiliol, eu rhyw neu anabledd, trwy wella gwasanaethau a rhoi cymorth trwy bartneriaeth
aml asiantaeth. Hefyd nodi a chael adnoddau i hyrwyddo hyn.

AELODAETH GYFREDOL Y FFORWM
  • Lloches i fenywod Cymru (Cymorth i Ferched Glyndŵr & Cymorth i Ferched y Rhyl a’r Ardal)
  • Gogledd Cymru Gwasenaethau Ymddiriedolaeth Iechyd Cenedlaethol
  • Cymorth i ddioddefwyr
  • Cyfreithwyr
  • Cymdeithas Dai Clwyd Alyn
  • Cymdeithas Tai Clwyd
  • Cymdeithas Tai Hafan
  • ChildLine
  • Gwasanaeth Prawf Gogledd Cymru
  • Cyngor Sir Ddinbych - Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg & Dysgu Gydol Oes, Tai, Gwasanaethau Ieuenctid, a Diogelwch Cymunedol
  • Heddlu Gogledd Cymru rhanbarth canolog
  • Tîm troseddwyr ieuenctid Conwy/Dinbych
  • Canolfan i fenywod Gogledd Cymru
  • NSPCC
  • Prosiect Camdriniaeth Ddomestig Gogledd Cymru
  • Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych
  • Fframwaith Asesiad Cyffredin

ENGLISH VERSION